Mae Heddlu Dyfed Powys yn apelio am wybodaeth am ddyn sydd ar goll.

Cafodd Geraint Thomas, 28 oed, ei weld y tro diwethaf yn Saundersfoot yn Sir Benfro ddydd Sul, 1 Ebrill.

Mae’n 5’7”o daldra, o faint tenau, gyda gwallt brown golau. Mae’n debyg ei fod yn cario bag coch ar ei gefn.

Roedd wedi mynd ar drên i Gaerdydd tua 5yp ond nid oedd wedi cyrraedd yno. Credir ei fod wedi mynd oddi ar y trên yn Abertawe ond mae ymholiadau’r heddlu yn parhau.

Nid yw Geraint Thomas wedi bod mewn cysylltiad gyda’i deulu nac anwyliaid ers hynny ac maen nhw’n bryderus am ei les.

Dylai unrhyw un sydd wedi gweld Geraint Thomas neu sy’n gwybod lle mae o gysylltu â’r heddlu ar 101.