Mae rhybudd melyn am law trwm wedi’i gyhoeddi yng Nghymru ar ddydd Llun y Pasg.

Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gall amodau gyrru fod yn beryglus gan fod disgwyl llifogydd mewn rhai llefydd.

Yn ôl y rhagolygon mae disgwyl i hyd at 70mm o law ddisgyn mewn rhai ardaloedd.

Mae Heddlu’r Gogledd hefyd yn rhybuddio bod amodau gyrru yn anodd y bore ma oherwydd eira ym Mwlch y Gorddinan ger Blaenau Ffestiniog a Bwlch yr Oernant yn Sir Ddinbych.

Mae disgwyl eira hefyd mewn rhannau o ogledd Lloegr a de’r Alban. Roedd y tymheredd wedi gostwng i 7C o dan y rhewbwynt yn Ucheldiroedd yr Alban dros nos.

Mae 15 rhybudd am lifogydd wedi’u cyhoeddi ar draws Lloegr ddydd Llun.

Dywed y Swyddfa Dywydd y gall teithwyr ddisgwyl oedi ar y ffyrdd, y rheilffyrdd a meysydd awyr oherwydd yr eira a’r glaw trwm.