Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 67 oed o Abertawe.

Cafwyd hyd i gorff John Williams, 67, yn ei gartref yn Heol Pentrechwyth ddydd Sadwrn.

Ond mae’r heddlu’n awyddus i glywed gan unrhyw un oedd yn yr ardal nos Iau.

Mae ei deulu wedi cael gwybod ac maen nhw’n derbyn cefnogaeth.