Dydy’r Swyddfa Dywydd ddim yn disgwyl eira yng Nghymru erbyn hyn, ond mae rhybudd melyn wedi’i gyhoeddi am law trwm.
Roedd disgwyl rhai modfeddi o eira yn y canolbarth, y gogledd a chymoedd y de ar Ddydd Llun y Pasg.
Ond rhybudd am law yn unig sy’n dal yn ei le, a hynny rhwng 5 o’r gloch heddiw (dydd Sul) a 4 o’r gloch brynhawn fory (dydd Llun).
Gallai’r glaw achosi llifogydd, gan amharu ar drafnidiaeth a busnesau lleol.