Mae baedd gwyllt arbennig yn cael ei gynnig i gwsmeriaid un o dafarnau enwoca’r Preselau i ddathlu darganfyddiad cyffrous yn yr ardal yn ddiweddar.

Yn ôl papur bro Clebran, fe ddaeth archaeolegwyr oedd yn chwilio am gerrig gleision yr ardal o hyd i’r hyn maen nhw’n credu yw troed baedd gwyllt hynafol.

Mae pwysigrwydd y darganfyddiad yn cael ei gymharu â dod o hyd i geirw coch Lydstep yn 2010.

Cysylltiad â chwedloniaeth?

Mae copi o olion troed y baedd gwyllt bellach yn cael eu harddangos ar ôl i Dafarn Sinc sicrhau grant o £20,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri i dwrio.

Yn dilyn ymgynghoriad ag arbenigwyr ym Mryste, dywed yr archaeolegwyr na allan nhw ddweud yn sicr nad eiddo baedd gwyllt enwocaf Cymru yw’r droed.

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Tafarn Sinc: “Mae hanes y Twrch Trwyth yn rhan o’n treftadaeth a’n braint ni yw tynnu sylw at y darganfyddiad yn y dafarn sydd yn aelwyd pob ymwelydd.

“Mae’n fwriad gennym i wahodd rhai o’r arbenigwyr pennaf ym maes chwedloniaeth y Mabinogi i’n plith.”

Bydd cig y Twrch Trwyth yn cael ei weini ar fwydlen Sul y Pasg y dafarn amser cinio heddiw.