Mae Dafydd Iwan yn dweud y dylai Cristnogion ddefnyddio eu ffydd “i newid y byd”.

Yn ôl y canwr a’r pregethwr lleyg, mae’n credu mai “neges ganolog” y ffydd Gristnogol yw “gobaith”, a bod y grym hwnnw’n cael ei amlygu gan Sul y Pasg a’r bedd gwag.

“Mae’n bwysig i ni ganolbwyntio ar yr agwedd bositif yna,” meddai wrth golwg360, “a’n bod ni’n amlygu’n ffydd trwy ein hagweddau’n positif tuag at fywyd.”

Mae hefyd yn dweud bod angen defnyddio’r ffydd honno i greu “byd gwell”, gan waredu ar bob “anghyfiawnder”, ac i weithio ag eraill mewn “cytgord a gobaith”.