Mae gŵr ifanc o Fro Morgannwg sy’n byw gydag awtistiaeth, yn dweud ei fod wedi mwynhau cael y cyfle i siarad mwy am ei gyflwr.

Yn ôl Niclas Want, 18 o’r Rhws, ger y Barri, mae stigma ynghylch awtistiaeth wedi lleihau ac mae pobol yn fwy parod i siarad am y cyflwr.

Mae’r disgybl chweched dosbarth o Ysgol Bro Morgannwg wedi bod yn cynnal gwasanaethau yn yr ysgol dros y dyddiau diwethaf i egluro i’w gyd-ddisgyblion sut beth yw byw gyda’r cyflwr.

“Dw i wedi bod yn gwneud gwasanaethau yr wythnos hon ac ar ôl gwneud hynny, chi’n teimlo fel bod chi wedi codi ymwybyddiaeth ac mae gennych chi bobol yn dod lan atoch chi ac yn dweud ‘mae gen i awtistiaeth’ neu ‘dw i’n gwybod am rywun sydd ag awtistiaeth’.

“Mae yna elfen o falchder dros hynny,” meddai. “Ni’n browd i fod yn wahanol… [mae’r wythnos] hefyd yn dathlu’r amrywiaeth yma sy’n bodoli ymysg pobol.

“Roedd pobol yn hoffi’r gwasanaeth, mae pobol yn trafod y pwnc bach mwy nawr, mae’n beth da gweld hynny.”

Y gallu i ganolbwyntio

Fe gafodd Niclas Want ddiagnosis pan oedd yn wyth oed, ac mae’n dweud ei fod wedi gallu manteisio ar y sgiliau sy’n dod gydag awstistiaeth, fel y gallu i ganolbwyntio ar bwnc penodol.

“Pan oeddwn i’n blentyn, roeddwn i’n dda iawn ar fathemateg, roedd gen i’r gallu i ffocysu’n ddwfn iawn yn y pwnc a nawr dyna be’ dw i eisiau gwneud yn y brifysgol yw manteisio ar y sgil a’r diddordeb hwnnw.

“Rwy’n hoffi mathemateg, rwy’n hoffi gwleidyddiaeth. Mae pobol awtistig yn cael obsesiynau dilynol, yn enwedig pan maen nhw’n blant, ac maen nhw fel arfer yn obsesiynau penodol iawn, ac roedd hwnna fel fi.

“Mae pobol fel fi â golwg bach yn wahanol o’r byd,” meddai wedyn, “jyst y ffordd rydyn ni’n dehongli sefyllfaoedd, dehongli beth mae pobol yn eu dweud.”

Ac er ei fod wedi tyfu i fwynhau cwmni pobol eraill yn fwy erbyn, pan oedd yn ifancach, dywed Niclas Want fod yn well ganddo dreulio amser ar ei ben ei hun.

“Doeddwn i beth yn hoffi gwneud gwaith grŵp pan oeddwn i’n ifanc, roeddwn i wastad yn hoffi gwneud tasgau ar fy mhen fy hun.

“… Dw i wedi tyfu mwy a mwy i hoffi cwmni pobol eraill a fi’n fwy dibynnol ar bobol eraill nawr ond mae hwnna yn dod gydag aeddfedrwydd a hwnna yw natur llawer o bobol gydag awtistiaeth.”

Y dyfodol 

Ar ôl gadael Ysgol Bro Morgannwg yn yr haf, mae Niclas Want yn gobeithio mynd i Brifysgol Warwick i astudio Mathemateg.

“Dw i’n gobeithio gwneud mathemateg yn y brifysgol, mae’n gyffrous iawn i mi, dw i’n edrych ymlaen at y newid a chwrdd â phobol newydd.

“Dw i’n credu bod pawb yn pryderu am y newid i’r routine arferol a pheidio bod gyda rhieni… ond dw i’n credu bydd yn gwneud byd o wahaniaeth i fi bod gyda phobol sy’n ymddiddori yn yr un pwnc.

“Dw i’n credu mai dyna weithiau sydd wedi bod yn fy ngadael i lawr yn y gorffennol, ymddiddori mewn pethau gwahanol iawn i’r pethau oedd yn bynciau llosg i bobol fy oedran.”