Mae Huw Jones, Cadeirydd S4C, wedi dweud ei fod yn “falch iawn” ag argymhelliad i “newid cylch gorchwyl” y sianel, i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein.

Ond, mae’n tynnu sylw at argymhelliad sy’n nodi y dylai’r sianel dderbyn ei chyllid cyfan trwy’r BBC gan ddweud ei fod yn un “dadleuol” – un pryder yw y gallai hynny wanhau annibyniaeth y sianel.

Mae Huw Jones ei hun yn cyfeirio at dair her sy’n wynebu’r sianel sef sicrhau: “cyllid sefydlog, annibyniaeth S4C a darpariaeth arian ddigonol”.

Daw’r sylwadau yn dilyn cyhoeddi adolygiad i ddyfodol y sianel, a chadarnhad gan y Llywodraeth y byddan nhw’n cynnal cyllid blynyddol y darlledwr, sef £6.72m, tan 2020.

Yn 2015, nododd Adolygiad Gwariant y Llywodraeth y dylai’r cyllid gwympo i £5m erbyn 2020, ond bellach mae’n ymddangos na fydd hynny’n digwydd.