Mae’r corff sy’n cynrychioli’r cwmnïau teledu annibynnol yng Nghymru wedi croesawu’r adolygiad o sianel S4C, ac yn dweud fod yr argymhellion yn yr adroddiad sydd wedi’i gyhoeddi heddiw, yn rhoi “mwy o ryddid i weithredu ar draws platfformau gwahanol”.

Yn ol Gareth Williams, Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC), fe fydd hyn yn caniatau i gynhyrchwyr ystyried ffyrdd gwahanol o fynd ar ol arian i wneud eu rhaglenni.

“Mae’n rhoi rhyddid i archwilio cyfleoedd masnachol drwy gydweithio ag ystod o bartneriaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru,” meddai Gareth Williams.

“Rydan ni’n nodi bod Euryn Ogwen Williams yn cytuno â’r mwyafrif o’r cyfranwyr a ddywedodd mai’r peth pwysicaf i S4C yw sefydlogrwydd a thryloywder o ran cyllid. Mae TAC yn croesawu’r ymrwymiad tymor byr i’r lefel ariannu gyfredol gan DCMS ar gyfer 2018/19 a 2019/20.

“Nid oes ymrwymiad o’r fath wedi ei wneud ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol, fodd bynnag.

“Buasem yn croesawu eglurhad gan y llywodraeth ar sut gellir sicrhau bod model ariannu S4C yn y dyfodol yn gynaliadwy. Hoffem dderbyn sicrhad gan y llywodraeth, o 2022/23 ymlaen, na fydd cyfanswm cyllid S4C o’r Ffi Drwydded yn llai na chyfanswm yr ariannu cyfunol cyfredol sy’n dod gan y Ffi Drwydded a grant DCMS, ac y bydd yn gysylltiedig â chwyddiant.”