Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru wedi galw ar lywodraeth Bae Caerdydd i fabwysiadu cynllun dychwelyd poteli, er mwyn mynd i’r afael â llygredd.
Daw’r alwad wedi i Lywodraeth Prydain gyhoeddi y byddan nhw’n dechrau ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni, ar gynllun o’r fath i Loegr.
“Mae cyhoeddiad heddiw yn nodi cam arall ymlaen, yn y frwydr yn erbyn gwastraff plastig,” meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns.
“Ac mi fuaswn yn galw ar Lywodraeth Cymru i fyfyrio ar fanteision y cynllun, ac i ystyried y potensial o gyflwyno’r un mesur yng Nghymru.”
Mae pobol gwledydd Prydain yn defnyddio tua 13 biliwn o boteli plastig y flwyddyn, gyda thri biliwn o’r rheiny yn cael eu llosgi a’u taflu o’r neilltu, gan gyfrannu at lygredd.
Beth yw’r cynllun?
Dan y cynllun, fe fyddai cost ychwanegol yn cael ei ychwanegu i bob diod ond mi fodd derbyn y swm yma yn ôl trwy ddychwelyd y botel, neu gan, gwag.
Mae’r trefniant hwn eisoes mewn grym yn Nenmarc, Sweden a’r Almaen – lle mae wedi arwain at gyfradd ailgylchu o 97%.
Yn y gwledydd yma, mae yna rwydwaith o beiriannau arbennig sy’n rhoddi arian i bobol sy’n dychwelyd poteli a chaniau gwag.
Mae’n ddigon posib mai trefniant tebyg i hyn gall gael ei gyflwyno yn Lloegr. Mae’n debyg bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn gobeithio cydweithio â’r llywodraethau datganoledig ar y mater.