Ar ôl cryn dipyn o oedi, mae’r adolygiad annibynnol i ddyfodol S4C, dan gadeirydddiaeth Euryn Ogwen Williams, wedi’i gyhoeddi.

Does dim sôn am gynnydd i gyllideb S4C – er bod rhai yn y diwydiant wedi bod yn galw am hynny – ond mae cyn gyfarwyddwr rhaglenni’r sianel yn argymell y dylai arian cyhoeddus S4C gael ei ddarparu’n llwyr drwy gyfrwng ffi’r drwydded o 2022/23 ymlaen.

Byddai hynny’n golygu bod holl benderfyniadau cyllido’r sianel yn y dyfodol yn cael eu gwneud fel rhan o setliad cyllid ffi trwydded y BBC.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo i gynnal y cyllid blynyddol cyfredol o £6.72m tan 2020.

Mae pwyslais mawr ar ddyfodol digidol y sianel yn yr adolygiad, gyda’r cadeirydd yn argymell newid cylch gwaith y sianel genedlaethol i adlewyrchu’r symudiad tuag at fwy o gynnwys digidol.

Dŵr oer dros ddatganoli

Mae’r adroddiad hefyd yn taflu dŵr oer dros y syniad o ddatganoli darlledu i Gymru, er gwaethaf ymgyrch ar ympryd wythnos o hyd, Elfed Wyn Jones, o Gymdeithas yr Iaith.

“Awgrymodd lleiafrif bychan o gyfranwyr i’r adolygiad y dylid datganoli’r cyfrifoldeb dros S4C i Lywodraeth Cymru,” meddai.

“Mae safbwynt llywodraeth y Deyrnas Unedig yn glir, sef bod darlledu yn fater a gedwir yn ôl, a bydd yn parhau i gael ei reoleiddio ar lefel y Deyrnas Unedig.

“Dyma’r ymagwedd gywir. Yn fy marn i, mae’r galw am ddatganoli cyfrifoldeb dros S4C yn tynnu sylw oddi ar y blaenoriaethau strategol hanfodol y dylai S4C ganolbwyntio arnynt, nid yn unig i wasanaethu cynulleidfaoedd yng Nghymru, ond cynulleidfaoedd Cymraeg yn y Deyrnas Unedig a thramor.”

Ymateb Ysgrifennydd Cymru

Er bod y Llywodraeth wedi addo cynnal cyllid S4C tan 2020, does dim sôn am arian wedi hynny. Mi ofynnodd golwg360 a fydd yna doriadau pellach felly i’r sianel mewn dwy flynedd.

“Dw i ddim yn gweld bod hwnna’n unrhyw bolisi o gwbwl,” meddai Alun Cairns, Ysgrifennydd Cymru. “Yn y lle cyntaf, mi oedd yna gynllun gwreiddiol bod arian S4C yn cael ei dorri lan tuag ag 2020.

“Felly rydyn ni wedi addo y bydd S4C yn cael yr un arian tuag at 2020. Yn amlwg, byddwn ni’n trafod wedyn gyda Ofcom a’r BBC, y setliad ariannol ar ôl hynny ond dw i’n gweld bod yna gyfle i S4C elwa allan o hwn.

“Mi fydd hwn yn rhoi setliad ariannol dros degawd yn gwmws fel mae’r BBC yn cael allan o drwydded y gwylwyr.

“Mae hwn yn dod â S4C i’r un statws â’r BBC, yn rhoi annibyniaeth i’r BBC achos bydd mecanwaith lle mae S4C yn cael yr arian yn awtomatig.

“Mae hwn yn rhoi yr un fath o setliad hirdymor ag fel sydd gan y BBC nawr.”

“Mae yna wastad her y tu fewn i’r Llywodraeth a’r BBC i drafod ariannu S4C ym mhob cyllideb ond y gwirionedd yw mae hwn yn rhoi setliad hirdymor i S4C gyda chyfleoedd newydd.”

Yr argymhellion

Mae argymhellion yr adolygiad i gyd wedi cael eu derbyn gan Lywodraeth Prydain. Dyma nhw yn eu cyfanrwydd:

  • Dylai’r llywodraeth ddiweddaru cylch gwaith gwasanaethau cyhoeddus S4C i gynnwys gwasanaethau digidol ac ar-lein a chael gwared ar gyfyngiadau darlledu daearyddol cyfredol. Bydd hyn yn galluogi S4C i ehangu ei gyrhaeddiad a chynnig ei gynnwys ar amrywiaeth o lwyfannau newydd yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
  • Dylai S4C sefydlu hwb digidol mewnol i ddatblygu a gwella ôl troed digidol S4C a bod yn sail i glwstwr digidol Cymraeg.
  • Dylai S4C sefydlu partneriaeth iaith gyda Llywodraeth Cymru ac eraill er mwyn helpu i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
  • Dylai arian cyhoeddus S4C gael ei ddarparu’n llwyr drwy gyfrwng ffi’r drwydded o 2022/23 ymlaen, gyda’r holl benderfyniadau cyllido yn y dyfodol yn cael eu gwneud fel rhan o setliad cyllid ffi trwydded y BBC.
  • Dylai’r llywodraeth ystyried diwygio’r gofynion cymeradwyo cyfredol i roi mwy o ryddid i S4C i fuddsoddi a chreu refeniw masnachol.
  • Dylid newid Awdurdod S4C am fwrdd unedol newydd sy’n cynnwys cyfarwyddwyr gweithredol ac anweithredol.
  • Dylai’r llywodraeth ystyried a yw trefniadau archwilio ariannol cyfredol S4C yn addas, gan gynnwys a fyddai’n briodol penodi Rheolwr ac Archwilydd Cyffredinol fel archwilydd allanol S4C.