Mae tri dyn arall wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â’r ymosodiad a fu yng Nghaerdydd dros y penwythnos.

Mae’r tri dyn, 18, 28 a 63 oed, wedi cael eu cymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o achosi niwed corfforol.

Yn ôl yr heddlu, fe gawson nhw eu galw i dŷ yn Inverness Place am tua 7:40yh nos Sul (Mawrth 25), ar ôl iddyn nhw dderbyn adroddiadau bod dau ddyn wedi cael eu trywanu.

Fe gafodd y ddau ddyn, 17 a 23, eu cludo’n syth i Ysbyty Athrofaol Caerdydd, ac mae dyn arall, 26, hefyd wedi derbyn triniaeth yno ar gyfer mân anafiadau.

Mae’r tri erbyn hyn mewn cyflwr “sefydlog”.

Mae dyn 35 oed a gafodd ei arestio ddoe mewn cysylltiad â’r digwyddiad bellach wedi cael ei ryddhau.