Mae bwrdd iechyd wedi ymddiheuro wedi iddyn nhw orfod cau canolfannau dros dro oherwydd prinder staff.

Methodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda a chynnig gwasanaethau ‘tu hwnt i’r oriau arferol’ mewn pedwar safle rhwng dydd Gwener a dydd Sul (Mawrth 23-25), oherwydd diffyg meddygon teulu.

Ymhlith y safleoedd a gafodd eu heffeithio roedd ysbytai Tywysog Philip a Glangwili, a’u safleoedd yn Llandysul a Sir Benfro. Er i’r lleoliadau gau roedd modd i gleifion dderbyn cymorth dros y ffôn.

Yn ôl y bwrdd mae iechyd y cyhoedd yn “flaenoriaeth”, ac maen nhw’n parhau i wneud “cymaint ag sy’n bosib” fel eu bod yn medru darparu gwasanaethau diogel.

Yr ymddiheuriad

“Ar ran y Bwrdd Iechyd, hoffwn ymddiheuro unwaith eto am unrhyw bryder neu anghyfleustra sydd wedi’i achosi oherwydd problemau staff y gwasanaeth y tu hwnt i’r oriau arferol,” meddai Prif Weithredwr y bwrdd, Steve Moore.

“Mae’r tuedd yma i’w weld mewn byrddau iechyd ledled y wlad, ac rydym yn gwybod bod ein staff â’n meddygon teulu yn gweithio’n galed iawn i ddarparu gwasanaethau diogel i’n cleifion. Ac rydym yn gwerthfawrogi hynny.”