Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio rhaglen £56m a fydd yn mynd i’r afael â bygythiadau llifogydd ac erydu arfordirol yng Nghymru.

Fe fydd awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn cyllid trwyddi, gan eu galluogi i ariannu cynlluniau rheoli llifogydd.

Ymhlith y prosiectau a chynlluniau fydd yn elwa mae amddiffynfeydd llifogydd Machynys, Llanelli; Cronfa Ddŵr Llyn Tegid, Gwynedd; a Pharc yr Onnen yn Aberystwyth.

Bydd rhaglen ‘Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol’ mewn grym dros flwyddyn ariannol 2018/2019, ac mae disgwyl bydd dros 6,500 eiddo yn elwa yn ei sgil.

Buddsoddi ar “raddfa fawr”

“Gall llifogydd gael effaith ddifrifol ar fywydau pobl,” meddai’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Hannah Blythyn.

“Mae’r cyllid hwn yn tystio ymhellach i’n hymrwymiad i leihau perygl a sicrhau cydnerthedd o safbwynt llifogydd ac erydu arfordirol.

“Rydym yn buddsoddi mewn cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw ar raddfa fawr ar draws Cymru.”