Cyflwr ffyrdd Cymru a’r camau sy’n cael eu cymryd i’w gwella, fydd ffocws ymchwiliad newydd gan un o bwyllgorau’r Cynulliad.

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn ymchwilio i “gyflwr presennol ffyrdd” ac yn penderfynu a yw’r drefn sydd ohoni yn “darparu gwerth am arian”.

Bydd y pwyllgor hefyd yn craffu ar nifer o brosiectau ffyrdd – gan gynnwys ffordd osgoi M4 Casnewydd, a ffordd osgoi Y Drenewydd – ac yn ystyried a ydyn nhw’n hyfyw.

Daw cyhoeddiad yr ymchwiliad yn sgil adroddiadau diweddar am broblemau’r rhwydwaith ffyrdd – byddai’n cymryd 24 mlynedd i fynd i’r afael â nhw, yn ôl rhai ffynonellau.

 “Hanfodol”

“Mae’n hanfodol bod gan Gymru rwydwaith ffyrdd a gynhelir yn dda i gadw’r wlad yn symud,” meddai Cadeirydd y pwyllgor, yr Aelod Cynulliad, Russell George.

“Ar adeg o bwysau ariannol a thoriadau i gyllidebau, rydym yn deall fod yn rhaid i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau anodd.

“Ond rydym hefyd yn bwriadu archwilio cyflwr presennol y ffyrdd yng Nghymru a’r hyn sy’n cael ei wneud i sicrhau bod y rhwydwaith yn addas ar gyfer y dyfodol.”

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus y pwyllgor ar agor hyd at Ebrill 27 2018.