Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth am ddynes 46 oed sydd ar goll o Wrecsam.
Maen nhw’n dweud eu bod yn gofidio am Yvonne (Toni) Logan.
Mae’n bosib ei bod hi’n gwisgo siaced ddu, crys gwyn heb lewys, trowsus ac esgidiau du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.