Fe fu’r gwasanaeth tân yn ceisio rheoli fflamau mewn tŷ ym Mhensyflog, Porthmadog fore heddiw.

Cawson nhw eu galw i’r eiddo am 11.30yb.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd achos y tân.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad, ac mae’r ymchwiliad yn parhau.