Mae staff yng nghaffi Llaeth&siwgr yng Nghaerdydd wedi cael eu beirniadu am eu hagwedd at y Gymraeg – mewn digwyddiad Cymraeg yno neithiwr.

Wrth drydar am sgwrs rhyngddi hi ac aelod o staff yn y caffi yn yr Hen Lyfrgell neithiwr, dywedodd Lois Gwenllian: “Siom enfawr yn yn heno: cael merch tu ôl i’r bar ag agwedd mor ddi-hid am y Gymraeg. Noder, mi oedd hyn mewn digwyddiad Cymraeg a’r lle yn llawn Cymry Cymraeg.”

Wrth egluro’r hyn ddigwyddodd, dywedodd mewn neges arall ei bod hi wedi archebu “dau Peroni” yn Gymraeg, a chael yr ateb gan ferch oedd yn gweini, “I speak English not Welsh”.

Pan awgrymodd y cwsmer nad oedd hi “fyth yn rhy hwyr i ddysgu”, cafodd hi’r ateb, “Does dim angen, dw i fel arfer yn gweithio mewn caffi Saesneg i gyd”.

Ymateb y perchennog

Roedd y digwyddiad yno neithiwr i godi arian at Owen Thomas, bachgen 15 oed sy’n dioddef o fath prin o ganser.

Eglurodd Tim Corrigan, perchennog Llaeth&siwgr, hynny yn ei ymateb ar Twitter i’r ffrae.

“Noson oedd hon i godi arian ar gyfer Owen Thomas, mae mater yr iaith Gymraeg at amser arall, mae “bod yno a chyd-destun” yn bethau rhyfeddol.

Ond doedd Lois Gwenllian ddim yn fodlon yn dilyn yr ymateb, gan dynnu sylw at y ffaith ei bod yn “noson codi arian, wedi’i thargedu at Gymry Cymraeg, wedi’i chynnal mewn lleoliad sy’n bennaf Gymraeg ei hiaith. Roedd y barmêd yn haerllug ac yn ddi-hid at yr iaith Gymraeg yr oedd yr holl ddigwyddiad codi arian yn dibynnu arni.”

Y Gymraeg yn erbyn y Saesneg

Mewn ymateb arall, ychwanegodd Tim Corrigan: “Does dim esgus byth am fod yn haerllug, fe wnawn ni ddelio â hynny. Fodd bynnag, ry’n ni hefyd wedi cael sawl achlysur lle mae siaradwyr Cymraeg wedi bod yn haerllug iawn a di-hid tuag at fy staff di-Gymraeg lle mai’r cyfan maen nhw’n ceisio’i wneud yw eu gwaith, gweini bwyd, clirio byrddau, gwneud diodydd.”

Wrth egluro na fyddai hi “fel arfer yn dweud unrhyw beth”, ychwanegodd Lois Gwenllian fod yr aelod staff yn “haerllug, yn sarhaus ac yn anymddiheurol am ei hymddygiad”. Dywedodd fod gweddill y staff yn “hyfryd”.

Yn y pen draw, fe ymddiheurodd Tim Corrigan, gan ddweud bod “angen sicrhau bod Cymry di-Gymraeg jyst yn deall pwysigrwydd yr iaith yn y safle hwnnw, a moesau. Sori.”

‘Agwedd nid iaith’

Wrth i’r sgwrs barhau, dywedodd Lois Gwenllian ei bod yn “deall y gall fod yn anodd dod o hyd i staff sy’n ddwyieithog”, gan ychwanegu nad yw’n “anodd, fodd bynnag, dangos parch tuag at gwsmeriaid sy’n gyfeillgar. Mae fy mhroblem i gyda’i hagwedd, nid y ffaith nad yw hi’n siarad Cymraeg.”

Wrth ymateb, dywedodd y perchennog: “Dw i’n gwybod yn union beth ydych chi’n ei olygu, dyna sy’n allweddol yma, ei hagwedd. Yn anffodus, ar Twitter, gall pethau fynd i gyfeiriad gwahanol, ond mae’n dal yn fater pwysig, ac yn un y bydd rhaid i ni ymdrin ag e eto.”