Bydd cynghorau Cymru’n derbyn £25 miliwn ychwanegol i’w fuddsoddi mewn gwasanaethau bysus ledled y wlad.

Daw’r grant gan Lywodraeth Cymru ac yn ôl Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates, bydd y swm yn “sicrhau gwasanaeth bysus cynaliadwy” yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Mae awdurdodau lleol Cymru eisoes yn derbyn cyllid blynyddol i’w wario ar wasanaethau bysus, ac mi fydd y grant yma yn ychwanegu at y gronfa sydd ganddyn nhw eisoes.

Mae bysus yng Nghymru’n gyfrifol am 100,ooo o deithiau y flwyddyn.

Cefnogi

Wrth gyhoeddi’r buddosiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: “Dwi’n falch ein bod wedi gallu cynnal ein lefel o fuddsoddi yng ngwasanaethau bysus Cymru er gwaethaf setliadau ariannol sy’n mynd yn fwyfwy heriol.

“Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi ein diwydiant bysus a darparu rhwydwaith effeithiol o fysus ar gyfer cymunedau fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus aml-foddol, integredig ledled Cymru.”