Fe fyddai Llywodraeth Plaid Cymru’n cynnal refferendwm annibyniaeth erbyn 2030 pe baen nhw mewn grym, yn ôl yr Aelod Cynulliad Adam Price.

Fe fydd yn dweud yng nghynhadledd y Blaid yn Llangollen heddiw y byddai Plaid Cymru’n cynnal y refferendwm yn ystod eu hail dymor, gan “ofyn i’r genhedlaeth hon sydd yn dod lle maen nhw am i Gymru fod erbyn canol y ganrif, ac yn cynnwys annibyniaeth fel opsiwn realistig”.

Bydd e hefyd yn dweud y byddai grid ynni, cwmni awyrennau cenedlaethol, cwmni tai cenedlaethol ac addysg yn rhad ac am ddim i fyfyrwyr prifysgolion ymhlith eu blaenoriaethau.

Fe fydd e’n galw am gyfres o gamau er mwyn sicrhau “cenedl fywiog, hyderus a llwyddiannus”, gan ddweud bod Cymru’n “wlad gyfoethog y mae ei phobol yn byw mewn tlodi”.

Mae disgwyl iddo ddweud bod Cymru’n fwy cyfoethog y pen na phob gwlad yn Affrica ond am ddwy, pob gwlad yn yr Americas ond am ddwy, ac yn fwy cyfoethog na hanner gwledydd Ewrop.