Mae angen i Blaid Cymru dynnu at ei gilydd a symud i’r un cyfeiriad – dyna un o negeseuon arweinydd Plaid Cymru i’w haelodau yn y gynhadledd yn Llangollen. Dywed Leanne Wood ei bod eisiau “adeiladu cenedl newydd” a bod angen i’r Blaid gael ei rhaglen amgen “bositif” ei hun.                                                                                                   

“Byddwn ni ond yn cyrraedd lle rydym ni eisiau bod os ydyn ni i gyd yn tynnu tuag at yr un cyfeiriad, yn sefyll law yn llaw, ochr yn ochr,” meddai heddiw. “Thema’r Gynhadledd hon yw adeiladu cenedl newydd. Byddwn yn mynd at yr etholiadau nesaf gyda deg nod… gosod amcanion cenedlaethol i newid Cymru er gwell.”

 

Leanne yn cadw’n “driw”

 

Ac wrth siarad â golwg360 wedi ei haraith, dywedodd Leanne Wood fod hi ddim yn credu bod y sgwrs dros ideoleg chwith neu dde’r blaid yn ddefnyddiol.

 

Dywedodd hefyd bod angen bod yn “driw i’ch hunan” mewn gwleidyddiaeth a pheidio newid eich egwyddorion.

 

Roedd yr arweinydd yn ymateb i alwad Jonathan Edwards AS, i symud y Blaid yn fwy tuag at y canol er mwyn osgoi “ebargofiant gwleidyddol” a chynnig llais gwahanol i Lafur Jeremy Corbyn.

 

“Dw i heb erioed benderfynu ar fy ngwleidyddiaeth ar sail gwleidyddiaeth rhywun arall,” meddai’r arweinydd.

 

“Dw i eisiau creu a delifro polisïau i gymunedau yng Nghymru a dyna beth rydym ni’n gwneud. Felly mae’r label chwith/dde, rydym ni’n siarad am ideoleg, dyw pobol jyst ddim yn meddwl fel hynny o gwbl.

 

“Mae pobol yn poeni am y materion bara menyn, cael bwyd ar y bwrdd, talu’r bil trydan, sicrhau bod gan y plant addysg ddigonol a bod chi ddim yn aros yn rhy hir pan bod chi’n ymweld â’r ysbyty.

 

“Rydym ni am ddod o hyd i atebion ymarferol i’r problemau hynny felly dw i jyst ddim yn siŵr os yw’r ddadl ideolegol chwith/dde yn un ddefnyddiol.

 

“Felly beth ydyn ni’n gwneud – os yw’r Blaid Lafur yn symud yn fwy i’r dde, ydyn ni wedyn yn symud yn ôl i’r chwith? Allwch chi ddim bod fel ‘na, mae’n rhaid i chi fod yn ddryw i’ch hunan mewn gwleidyddiaeth ac mae’n rhaid i chi sefyll dros werthoedd ac egwyddorion a dyna be’ dw i’n gwneud.”