Bydd cynnyrch glendid misglwyf am ddim yn cael ei ddosbarthu gan ysgolion, grwpiau cymunedol  a banciau bwyd mewn ymgais i fynd i’r afael â “thlodi misglwyf” ledled Cymru.

Dywedodd Julie James AC y byddai’r cynghorau’n rhannu cronfa o £1m i helpu “y rhai sydd ei hangen fwyaf”.

Bydd yr arian hefyd yn cael ei ddefnyddio i wella cyfleusterau toiledau mewn ysgolion.

“Mae iechyd corfforol, emosiynol a meddyliol ein disgyblion yn hollbwysig,” meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams AC.

“Bydd yr arian hwn yn helpu i sicrhau bod y cyfleusterau hyn yn ein hysgolion yn diwallu anghenion merched a menywod ifanc.”