Mae teulu merch ddwy flwydd oed a fu farw ddechrau’r wythnos, yn awyddus i’r cyhoedd wneud ei hangladd yn achlysur “disglair a hardd”.

Cafodd Kiara Moore ei chanfod mewn car yn afon Teifi ar ôl iddi gael ei gadael yn y cerbyd a oedd wedi’i barcio ar lithrfa yn Aberteifi. Bu farw’r ferch fach yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Byddai wedi dathlu ei phen-blwydd yn dair oed ddydd Mawrth y 27 o Fawrth – diwrnod ei hangladd, a dathliad o’i bywyd.

Mae ei rhieni wedi gofyn i bobl wisgo dillad lliwgar.

Mae tad Kiara, Jet Moore, 40 a’i mam Kim Rowlands, 25, wedi rhoi gwahoddiad cyhoeddus i “barti i ddathlu ei bywyd hapus”.

Mewn neges ar Facebook mae’r tad wedi ysgrifennu: ‘Hoffwn i, Kim a’r teulu eich gwahodd i gyd i angladd a pharti i ddathlu ei bywyd hapus a’i phen-blwydd!

“Dewch â phlant os y gallwch! (dathliad hapus fydd e’). Gwisgwch ddillad “llachar a hardd” sy’n “hwyl”.’

Mae yna gais i’r rhai sy’n mynd i anfon neges ac fe ddywedodd Jet Moore hefyd bod y teulu yn gobeithio sefydlu cronfa i helpu pobl sy’n dioddef o afiechyd meddwl.

Yn lle blodau bydd arian yn cael ei roi i elusennau amgylcheddol.

Bydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Amlosgfa Parc Gwyn yn Arberth, Sir Benfro ddydd Mawrth, Mawrth 27 ac wedyn fe fydd dathliad ger cartref y teulu yn nhafarn Ffostrasol ger Llandysul.

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio er mwyn ceisio deall yn iawn beth ddigwyddodd.

Mae Uwch Grwner Ceredigion wedi agor, a gohirio, cwest i amgylchiadau marwolaeth Kiara Moore.