Yn ei araith i aelodau heddiw yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru, mae Aelod Seneddol wedi dweud bod angen i’r Blaid symud yn fwy tuag at y canol er mwyn osgoi cael ei thaflu i “ebargofiant gwleidyddol”.

Mae galwad Jonathan Edwards yn cael ei weld fel her i agenda sosialaidd Leanne Wood, sy’n cael ei gweld fel yr arweinydd sydd wedi symud Plaid Cymru tuag at y chwith.

Mae disgwyl i Leanne Wood roi ei haraith i aelodau yn hwyrach prynhawn yma.

Dyma farn ambell aelod yn Llangollen…

Sosialaeth Leanne fel “Marmite

“Fi’n cytuno’n llwyr gyda Jonathan oherwydd pan fydd Brexit wedi’i sortio byddan nhw’n cael arweinydd newydd gyda’r Torïaid, byddan nhw’n adfywio tipyn bach ac wrthon ni, Plaid Cymru, byddan nhw’n dwyn pleidleisiau,” meddai Siân Thomas o Sir Gaerfyrddin.

“Yn fy etholaeth i yn nwyrain Caerfyrddin, mae’r Cymoedd ôl-ddiwydiannol Llafur wedi syrthio i Blaid Cymru, dim ond dau gynghorydd Llafur sydd ar ôl gyda ni yn yr etholaeth.

“Ond rydyn ni’n pryderu nawr am yr hanner arall, yr hanner gwledig traddodiadol, adain dde a phwy maen nhw’n mynd i bleidleisio.

“Mae Leanne yn marmite llwyr, maen nhw naill ai yn dwlu arni neu dydyn nhw ddim yn hoffi hi o gwbl… ar y stepen drws mae pobol yn gallu gweld bod hi’n bersonoliaeth hoffus ond ar y teledu maen nhw’n gweld hi’n lot yn rhy i’r chwith.

“Mae’n rhaid i ni ennill y bobol sydd tipyn bach yn fwy i’r dde achos mae gyda ni rhywbeth amgen i gynnig iddyn nhw na rhywbeth Llundeinig a dyna beth sy’n bwysig bod nhw’n gwybod bod dewis gyda nhw.”

“Neges debyg i Corbyn”

“Dw i’n deall beth mae Jonny yn dweud achos rydyn ni newydd ddod drwy etholiad lle mae neges Plaid yn eithaf tebyg i Jeremy Corbyn,” meddai Rhys Mills o Islwyn.

So rydyn ni’n eistedd ar yr un sort of centre left, civic socialism. Y peth yw gyda’r wasg yn dod o Lundain, dydyn ni ddim ar yr un playing field [â Corbyn] so dw i’n deall beth mae Jonny’n dweud.

“Does yna ddim byd yn bod ar le ydym ni nawr, mae e’ am sut rydyn ni’n anfon y neges sydd efallai eisiau newid, dw i’n meddwl am sut rydyn ni’n dweud pethau er mwyn i bobol glywed y neges yn glir.”

 Barn ar y busnes McEvoy

Yng nghylchgrawn Golwg yr wythnos hon, wrth gyfeirio at y ffraeo ynghylch Neil McEvoy a’r Blaid yn Llanelli, mae Jonathan Edwards wedi dweud bod angen dod â’r cecru i ben.

Bu golwg360 yn holi’r aelodau yn Llangollen i weld a ydyn nhw yn cytuno…

“Dw i’n meddwl os oes problem, mae’n rhaid i ni ei thrafod,” meddai Pam Bell o Sir Fynwy am y cecru ar Neil McEvoy.

“Dw i ddim yn siŵr am ffeithiau’r naill achos a bydden i’n sicr ddim am beidio edrych mewn iddo fe a chanfod beth sy’n digwydd a thrafod e gydag unrhyw un.

“Dw i ddim yn credu y gallwn ni jyst dweud stopiwch gecru pan fo gan bobol problem dydyn nhw ddim yn credu sydd wedi cael ei datrys.”

“Y blaid heb ddelio â hyn yn dda”

Dywedodd Rhys Mills o Islwyn fod angen i’r blaid uno i gyrraedd y nod gyffredin mae’n dweud bod pawb yn ei rannu.

“Mae rhai ar y lein ac maen nhw’n noisy ar y lein, yn y byd go iawn, sawl person sydd efo McEvoy… dydyn ni ddim yn gwybod.

“… Dw i ddim yn deall bod angen i ni fod yn wynebau pobol, mae’n gweithio i Neil a phob lwc iddo fe.

“Mae dau beth i wneud nawr – roedd Neil yn dweud bod e heb gael ei drin yn dda ond i fod yn deg i’r blaid, dylai Neil ddim mynd i’r wasg, os mai uno mae e eisiau gwneud, wel uno dylai fe wneud.

“A hefyd ar yr ochr arall… efallai dylai’r Blaid wedi mynd o gwmpas hyn yn wahanol, felly mae bai fan ‘na ond i fi dyw e ddim am y ‘good guys a’r bad guys’.

“Dydyn ni heb ddelio â hyn fel plaid yn gwbl dda i fod yn onest, a dylai Neil ddim bod yn y wasg yn sgorio pwyntiau fel hyn.

“Beth sy’n ymuno ni i gyd gyda’n gilydd, rydyn ni eisiau Cymru sydd â hyder yn sefyll lan dros ei hun, lle mae pobol yn gallu siarad dwy iaith, a dyna beth ddylwn ni anelu ato.

“Mae pawb yn deall y destination ond mae pawb yn cymryd y ffordd eu hunain a dw i’n euog o hynny hefyd.”

Busnes McEvoy “wedi suro” pethau

“Mae’r busnes yma gyda Neil McEvoy wedi suro pethau yn fawr iawn, sa i’n gwybod beth yw agenda’r boi yna,” meddai Siân Thomas o Sir Gaerfyrddin fu’n gynghorydd ar ward Penygroes.

“Fi’n credu bod e’n gallu creu niwed i’r Blaid, mae’r wasg yn draddodiadol yn hoffi newyddion gwael yn hytrach na newyddion da… so maen nhw’n gwneud yn fawr o Neil McEvoy, llawer iawn na beth fyddai aelod o’r Blaid yn ystyried yn bwysig.

“Mae cymaint o broblemau yn Llanelli, oni bai am y problemau, byddai Plaid Cymru yn gallu rheoli Caerfyrddin yn llwyr ond oherwydd y ffraeo mewnol yn Llanelli, wnaethon nhw dynnu eu llygaid i ffwrdd o gasglu pleidleisiau ac wedyn colli.

“Mae bai ar bawb, y ddwy ochr a’r blaid yn ganolog am beidio camu i mewn yn ddigon cyflym a bod yn ddigon pendant.”