Mae Prifysgol Bangor wedi derbyn gwobr am safon ei hyfforddiant ar sut i annog bwydo o’r fron.

Derbyniwyd y wobr Baby Friendly Award yn ddiweddar gan ddarlithwyr cwrs Bydwreigiaeth a myfyrwyr yr Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd.

“Fe wnaethom benderfynu gweithio gyda’r Baby Friendly Initiative i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr bydwreigiaeth sy’n graddio o’r cwrs yma’n cael hyfforddiant o safon uchel mewn bwydo o’r fron,” meddai Sheila Brown, y Fydwraig â Phrif Gyfrifoldeb dros Addysg a Chyfarwyddwr Cwrs y Rhaglen Baglor mewn Bydwreigiaeth yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor.

“Rydym yn gwybod bod llawer o ferched yn rhoi’r gorau i fwydo o’r fron cyn y maent eisiau gwneud hynny oherwydd trafferthion y gellid bod wedi eu hosgoi pe bai cymorth medrus wrth law.

“Trwy sicrhau bod ein myfyrwyr wedi cael hyfforddiant llawn ar sut i helpu mam i fwydo ei phlentyn o’r fron, bydd mwy o ferched yn gallu bwydo eu babanod o’r fron am gyfnod hirach.”

Mae’r Baby Friendly Initiative, a sefydlwyd gan Unicef a Sefydliad Iechyd y Byd, yn rhaglen fyd-eang sy’n rhoi ffordd ymarferol ac effeithiol i wasanaethau iechyd wella’r gofal a ddarperir i holl famau a babanod.