Mae teyrngedau’n cael eu rhoi i rapiwr a cherddor o Gaerfyrddin a fu farw ddydd Llun (Mawrth 19) yn ddim ond 39 oed.

Roedd Gareth ‘Chef’ Williams yn bennaf adnabyddus am fod yn aelod o’r grŵp hip hop Tystion yn yr 1990au, ac am ei gyfraniad i’r Sîn Roc Gymraeg yn y cyfnod hwnnw.

Bu farw yn dilyn brwydr degawd o hyd ag alcoholiaeth.

Fe fydd ei angladd yn Arberth ddydd Mercher nesaf (Mawrth 28), ac mewn datganiad ar wefan Facebook, mae’i deulu wedi dweud bydd y gwasanaeth dyneiddiol yn gyfle i “ddathlu” ei fywyd.

“Annwyl y diawl”

Yn ôl y gantores Mared Lenny o Gaerfyrddin – sy’n perfformio dan yr enw Swci Boscawen – roedd Gareth Williams yn “foi cŵl” ac yn “annwyl y diawl” gyda  “lot o sbort a lot o charm”.

Ond, â hithau’n gyfaill agos iddo bu’n perfformio ag ef am gyfnod, mae Mared Lenny yn nodi nad oedd y farwolaeth yn sioc iddi hi.

“I’r rhai oedd yn agos i Chef doedd e ddim yn sioc,” meddai wrth golwg360. “Achos, yn anffodus, dyna oedd natur ei salwch.

“Yn anffodus mae’n rhywbeth sydd wedi bod yn hir-ddisgwyledig. Mae ei farwolaeth yn bach o wastraff ac yn drueni y diawl.”

“Calon y parti”

Bu Aled Thomas yn byw ar yr un stryd â Gareth Williams am gyfnod – ym Mharc y Delyn, Caerfyrddin – ac mae’n cofio jamio cerddoriaeth gydag ef.

Doedd gan ‘Chef’ “ddim byd cas i ddweud am neb”, meddai, ac mae’n nodi mai ef oed “calon y parti” bob amser.

“Roedd e’n byw pob dydd fel yr un olaf,” meddai Aled Thomas wrth golwg360. “Doedd e ddim yn rhy serious am bethau – ddim yn poeni am consequences! Felna oedd e.”

Wrth son am frwydr ei gyfaill yn erbyn alcoholiaeth, mae’n cofio’r tro diwethaf iddyn nhw gwrdd.

“Es i i weld e bore dydd Sadwrn yn nhŷ ei rhieni yn Sanclêr, a doedd dim lot o siâp gyda fe’r adeg yna,” meddai.

“Fi’n credu o’n i’n gwybod, ac roedd e’n gwybod hefyd, taw dyna fyddai’r tro ola’ i ni weld ein gilydd. Oedd e’n amser emosiynol iawn.”

“Bachan rili ffein”

Roedd Steffan Cravos – Sleifar i rai – yn gyd-aelod o fand y Tystion gyda Gareth ‘Chef’ Williams, ac mae e’n cofio cwrdd am y tro cyntaf wrth ysmygu y tu ôl i sied feiciau’r ysgol yng Nghaerfyrddin.

Yn dilyn y “cysylltiad cyntaf” yma, mae Steffan Cravos yn dweud i’r ddau ohonyn nhw “fondio” tros gasét  ‘Jump Around’ gan y grŵp hip hop House of Pain, cyn dod i dreulio “lot o amser” â’i gilydd yn creu a pherfformio cerddoriaeth.

“Fe gawson ni lot o laughs a lot o hwyl ar y ffordd, ac fe fydda’ i’n cofio amdano fe wastad yn chwerthin â gwen fawr.

“Mae’n drist iawn,” meddai wedyn am farwolaeth ‘Chef’. “Roedd e’n fachan rili ffein. Un o’r bobol neisaf i fi gael y pleser o’u nabod a gweithio gyda nhw.”

Â’r grŵp yn mynd i’r afael ag agweddau “difrifol, gwleidyddol” mae Steffan Cravos yn canmol ei gyd-rapiwr am ddod â “balans” i’r Tystion.

“Roedd e’n dda i gael Chef yn rhan o’r peth, achos oedd e’n dod â’r ochr mwy ysgafn – mwy o hiwmor falle.”