Mae cabinet cyngor Sir y Fflint wedi pleidleisio o blaid cau marchnad y dref.

Dyfarnwyd siarter i gynnal marchnad gyntaf i’r dref dros 700 mlynedd yn ôl, ac fe gafodd ei hadfer ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.

Ond, yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor, dydi’r “nifer fach o fasnachwyr a stondinau” bellach yn gwneud llawer i roi hwb nac i ddenu pobol i ganol y dref.

Mae’r adroddiad hefyd yn mynegi pryder bod cau priffordd yng nghanol y dref bob wythnos er mwyn cynnal y farchnad, yn tarfu ar yrwyr tra bod siopwyr cyfagos yn colli busnes.

Yn y cyfamser, pleidleisiodd cynghorwyr Sir y Fflint i barhau i gynnal marchnad Treffynnon am y tro, a throsglwyddo’r farchnad yng Nghei Connah i ofal cyngor y dref.