Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i ferch ddwyflwydd oed a fu farw mewn digwyddiad yn afon Teifi brynhawn Llun – dim ond wythnos cyn ei phen-blwydd yn dair oed.

Yn ôl adroddiadau lleol, Kiara Moore o Landysul oedd y teithiwr yn y car wedi’i ddwyn a aeth i mewn afon Teifi yn Aberteifi ddoe.

Mewn datganiad, mae Heddlu Dyfed Powys yn cadarnhau marwolaeth merch fach a gafodd ei chludo mewn ambiwlans awyr i Ysbyty Athrofaol Caerdydd neithiwr.

Rydym yn ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad trasig hwn ac rydym yn apelio arvdystion a allai fod wedi gweld y car Mini lliw arian yn mynd i mewn i’r afon rhwng 3:30yp a 4:50yp,” meddai llefarydd.

Ar ei dudalen Facebook, mae partner mam Kiara wedi dweud diolch i bawb am eu cymorth, ac “yn anffodus, roedd bywyd Kiara yn un anhygoel ond byr”.

Mae hanes gyrrwr y car yn parhau i fod yn ddirgelwch, ac mae tîm deifio arbenigol Heddlu De Cymru yn dal i chwilio’r afon.

Mae Aelod Cynulliad Ceredigion, Elin Jones, wedi mynegi ei chydymdeimlad ar Twitter, gan ddweud bod hyn yn “newyddion ofnadwy” i Aberteifi, wrth i “fywyd ifanc, diniwed” gael ei gymryd mewn ffordd mor erchyll.

Mae hefyd yn diolch i’r rheiny a ddaeth i’r adwy i geisio achub y ferch fach.

“Colled ifanc sy’n tristau cymuned. R.I.P Kiara Moore.”