Mae gŵyl gorawl sy’n cael ei chynnal yn flynyddol yn ystod yr hydref yn dod â hwb ariannol o bron i £400,000 i economi Llandudno, yn ôl Cyngor Sir Conwy.

Mae Gŵyl Gorawl Gogledd Cymru yn cael ei chynnal bob blwyddyn ar benwythnos cyntaf mis Tachwedd, ac mae’n ddigwyddiad sy’n cael ei drefnu gan y cyngor sir ei hun.

Ers ei sefydlu yn 1988, a hynny fel cystadleuaeth undydd, mae wedi tyfu o flwyddyn i flwyddyn, ac mae’n cynnwys detholiad o gategorïau amrywiol, gweithdai ysgolion, cystadlaethau, a pherfformiadau gan aelodau o’r gymuned.

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal yn Venue Cymru, bellach yn ddigwyddiad tri diwrnod, ac yn denu 2,500 o bobol i Landudno, gyda’r rheiny naill ai’n ymwelwyr neu gystadleuwyr.

“Bywiogi’r hydref”

Yn ôl y Cynghorydd Louise Emery, yr aelod cabinet dros ddatblygiad economaidd, mae’r ŵyl hon yn helpu tref twristiaid fel Llandudno i “ffynnu” yn ystod misoedd tawel y gaeaf.

“Mae hon yn ddigwyddiad arbennig sy’n ychwanegiad gwerthfawr i’r rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau sydd gennym yng Nghonwy,” meddai.

“Mae corau, yn naturiol, yn grwpiau mawr.  Mae’r ymwelwyr hyn yn teithio i Ogledd Cymru o ledled y DU ac mae’r holl bobl hyn angen llety, bwyd a diod, ac adloniant pan fyddant yn cyrraedd.

“Mae’r Ŵyl yn bywiogi’r hydref ac mae’n hanfodol i nifer o westywyr, tafarnwyr, perchnogion caffi, a busnesau yn Llandudno.”