Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar ffordd ym Mhen Llŷn.

Digwyddodd y gwrthdrawiad nos Sul (Mawrth 18) ar y B4413 rhwng Llanbedrog a Mynytho, a dim ond un cerbyd, sef beic cwad, oedd ynghlwm â’r gwrthdrawiad.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 7 yr hwyr, a chafodd y gyrrwr y beic cwad ei gludo i ysbyty yn Stoke gan yr ambiwlans awyr.

Bu farw’r dyn yn yr ysbyty, a bellach mae ei deulu wedi cael gwybod am ei farwolaeth.

Dywed Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw’n gallu rhyddhau rhagor o wybodaeth am y dyn ar hyn  o bryd.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a oedd wedi gweld y beic cwad yn teithio ar hyd y B4413, gysylltu â swyddogion trwy ffonio 101 a dyfynnu’r cyfeirnod W034152.