Gall cau Coleg Cymuned Dinbych arwain at sgil effeithiau “difrifol” i bobol ifanc y dref, yn ôl Aelod Cynulliad yr ardal.

Cyhoeddodd Grŵp Llandrillo Menai ddydd Iau (Mawrth 15) eu bod yn bwriadu cau’r coleg yn sgil adolygiad o safleoedd y corff.

Ond bellach mae Aelod Cynulliad Dyffryn Clwyd, Ann Jones, wedi galw ar y corff i ailystyried y cam gan godi pryderon am ei “effeithiau” ar allu pobol leol i gael swyddi.

“Difrodus”

“Gall effaith y cam yma fod yn ddifrifol  i bobol ifanc ac oedolion sydd yn gobeithio gwella eu haddysg o fewn Dinbych,” meddai Ann Jones.

“Dydy teithio o’r dref i golegau eraill ledled gogledd Cymru, ddim yn hawdd, a gallai arwain at gostau ychwanegol i unigolion sydd angen trefnu gofal i’w plant.

“Bydd y penderfyniad yma yn cael effaith ar botensial pobol yn Ninbych i gael swyddi da, ac mae gwir angen i Goleg Llandrillo ail ystyried hyn.”

Cyfarfod

Daw’r sylwadau yn sgil cyfarfod cyhoeddus i drafod pryderon myfyrwyr, rhieni, ysgolion, busnesau a phreswylwyr y dref am y cam.

Mae  Ann Jones, ac Aelod Seneddol Dyffryn Clwyd, Chris Ruane, eisoes wedi cwrdd â pherchnogion y safle i leisio eu pryderon.