Fe fydd ymgynghoriad newydd yn cael ei gynnal gan Lywodraeth Cymru a fydd yn rhoi’r cyfle i blant a phobol ifanc ddweud eu barn ar Brexit.

Nod yr ymgynghoriad yw sicrhau bod y Llywodraeth yn deall barn plant a phobol ifanc ar y mater, a’u bod yn cael eu cynrychioli yn y trafodaethau ar y broses o adael yr Undeb Ewropeaidd.

Bydd yr ymgynghoriad yn ymgysylltu â phlant rhwng 7 ac 11 oed mewn ysgolion, ynghyd â phobol ifanc 11 oed  a throsodd trwy gyfrwng rhwydwaith sefydliadau Cymru Ifanc.

Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnwys:

  • Adnoddau digidol a chyfryngau cymdeithasol fel bo plant a phobol ifanc yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd yn ystod proses Brexit.
  • Bydd Cymru Ifanc yn sefydlu Grŵp Cynghori Brexit a fydd yn cynnwys hyd at 12 o bobol ifanc ledled Cymru.
  • Caiff 15 o bobol ifanc gymorth i gyflwyno cyfanswm o 15 gweithdy, a fydd yn ymgysylltu â dros 600 o blant a phobol ifanc.

Mi fydd gan bobol ifanc yr hawl i ddewis os ydyn nhw am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ai peidio, ac fe fydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad ar gyfer hydref 2018

Rhoi “gwrandawiad” i blant

Yn ôl y Gweinidog Plant, Huw Irranca-Davies, mae’n cydnabod mai plant yw “ein dyfodol”, a’u bod yn bwysig bod eu barn yn cael “gwrandawiad”.

“Bydd Brexit yn arwain at rai o’r newidiadau mwyaf y bydd angen i blant a phobl ifanc eu hwynebu yn ystod eu hoes fel oedolion,” meddai, “felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed eu barn ac i wneud popeth o fewn fy ngallu i sicrhau fy mod yn gweithredu ar hynny.”