Mae’r eira dros y penwythnos yn parhau i achosi trafferthion i deithwyr ac mae mwy na 200 o ysgolion ynghau ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew yng Nghymru nos Sul tan 10 o’r gloch fore Llun.

Yn ôl y rhybudd, fe fydd rhew ar ffyrdd, palmentydd a llwybrau beicio sydd heb eu graeanu, allai arwain at “ddamweiniau ac anafiadau”.

Fe fydd y tymheredd yn gostwng islaw’r rhewbwynt, a’r eira’n troi’n rhew mewn rhai mannau deheuol.

Ysgolion ynghau

Hyd yn hyn, mae yna ysgolion yn y siroedd canlynol ynghau oherwydd y tywydd:

  • Blaenau Gwent
  • Caerffili
  • Bro Morgannwg
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Merthyr Tudful
  • Torfaen
  • Rhondda Cynon Taf
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Mynwy
  • Powys

Trafferthion i deithwyr

Bu’r eira yn achosi trafferthion ar nifer o ffyrdd ddoe gan gynnwys Sir Gar a Rhondda Cynon Taf yn ogystal ag Aberystwyth ac yn y gogledd o gwmpas ardal Llanrwst.

Roedd y gwyntoedd cryfion hefyd wedi golygu bod un lon wedi ei chau i’r ddau gyfeiriad ar Bont Hafren, hediadau o Faes Awyr Caerdydd i Baris ac Amsterdam wedi’u canslo, a gwasanaethau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon wedi eu gohirio neu eu canslo

Y cyngor i deithwyr yw checio gwefannau’r cwmnïau teithio.