Doedd y Doctor Who diweddaraf, Jodie Whittaker ddim yn gwylio’r gyfres yng nghartre’r teulu pan oedd hi’n blentyn, meddai.

Hi yw’r ferch gyntaf i chwarae’r prif gymeriad ar ôl i Peter Capaldi roi’r gorau iddi dros gyfnod y Nadolig.

Mewn cyfweliad â’r Sunday Times, dywedodd seren newydd y gyfres sy’n cael ei chynhyrchu yng Nghaerdydd: “Fel teulu, doedden ni ddim yn ei gwylio, ac eithrio yng nghartrefi pobol eraill.

“Ro’n i’n fwy ymwybodol o lawer ohoni pan ddychwelodd hi gyda Christopher Eccleston, David Tennant a Matt Smith.”

‘Llawn cyffro’

Serch hynny, roedd hi’n hyderus ei bod hi’n addas ar gyfer y rôl.

“Es i i’r clyweliad yn llawn cyffro, ond dw i bob amser yn cerdded i mewn i’r ystafell â’r agwedd, ‘Dw i’n swnio fel hyn, dw i’n edrych fel hyn ond credwch chi fi, galla i ei wneud e.”

Wrth egluro’r ffordd y bydd hi’n mynd o gwmpas y rôl, dywedodd: “Does dim ffordd gywir nac anghywir, does dim rheolau.”

Yn ymuno â hi fel cyfeillion y Doctor mae Bradley Walsh, Mandip Gill a Tosin Cole.

Hi yw’r trydydd Doctor ar ddeg, ac mae’n dweud bod Jack Lemmon, seren y ffilm Some Like It Hot, yw un o’i phrif ddylanwadau, ond fod Marilyn Monroe hefyd wedi dylanwadu arni.