Fe laniodd Americanwr yn Nhafarn Sinc yr wythnos hon – er mwyn gweld y sefydliad y mae wedi prynu siârs ynddo.

Mae Doug Hansen yn byw yn Pipe Creek, ardal fynyddig yn Tecsas sydd o fewn pellter cymudo i San Antonio a Bandera – ac mae ef a’i gyd-aelodau o’r clwb rygbi cymdeithasol byd-eang,  Love Chickens RFC, wedi prynu cyfranddaliadau yn y dafarn.

“Pan glywais fod y dafarn mewn perygl o gau fe ddywedes i wrth fy nghyd-aelodau i fuddsoddi ar unwaith,” meddai Doug Hansen.

“A chan ein bod ar daith yng Nghymru, roedd rhaid i mi wneud yr ymdrech i weld yr hyn roedden ni wedi buddsoddi ynddo. Fydden i ddim am weld tafarn cefn gwlad go iawn yn cau.

“ Roeddwn wedi fy mhlesio’n fawr,” meddai wedyn. “Roedd [Tafarn Sinc] yn fy atgoffa o Arkey-Blue’s nôl adref sydd yn dafarn cowbois go iawn â chaneuon cowbois yn cael eu chwarae bron bob noson o’r wythnos. Dyma brifddinas cowbois y byd, ac fe glywch chi Arkey ei hun yn canu yno ar nos Sadyrnau.

“Dwi’n falch fy mod i wedi galw heibio ddiwedd mis Mawrth er mwyn gwerthfawrogi’r lle,” meddai. “Mae’n siŵr ei bod hi’n hynod o brysur drwy’r haf wedi’r Pasg.”

“Cyn wired â bod neidr ruglo yn neidr ruglo mae’n rhaid mai Tafarn Sinc yw’r unig dafarn sinc yn y byd crwn cyfan sy’n eiddo i gyfranddalwyr – a dw i’n un o’r rheiny!”

Mae cyfranddaliadau yn Nhafarn Sinc ar werth am £200 yr un.

Pwy yw’r Love Chickens?

Yr aelodau o’r Love Chickens a drefnodd y buddsoddiad ar ran Doug Hansen, oedd Peter Devonald o Gas-mael, Matty Miles o Drecŵn a Fergi Mathias o Abergwaun.

Ffurfiwyd y Love Chickens yn 1999 am y rheswm mai dyna’r enw a welwyd wedi’i ysgrifennu ar ddarn o bapur y bore wedyn mewn gwesty ym Mharis pan benderfynwyd y dylen nhw gael enw. Mae’r aelodaeth wedi cynyddu i dros 200, ond does ganddyn nhw ddim cardiau aelodaeth na chyfansoddiad na rhestr o reolau.

Mae’r Love Chickens yn sicr yn gwybod sut i fwynhau eu hunain. Mae dweud eu bod nhw bob amser yn cael andros o hwyl a craic yn gwneud cam â nhw. Fe fydd yna wastad groeso iddyn nhw yn Nhafarn Sinc – y 200 ohonyn nhw.