Ni fydd Aelodau’r Cynulliad yn cael gweld fersiwn wedi’i olygu o un o’r adroddiadau ar yr amgylchiadau arweiniodd at farwolaeth Carl Sargeant.

Roedd y Cynulliad wedi pleidleisio rhai wythnosau yn ôl i gael gweld yr adroddiad ynghylch a gafodd newyddion am sacio’r cyn-AC ei rannu â’r wasg heb heb ganiatâd.

Ond mae prif swyddog sifil Llywodraeth Cymru, Shan Morgan, wedi ysgrifennu at Aelodau’r Cynulliad heddiw yn dweud y gallai cyhoeddi’r adroddiad niweidio ymchwiliadau eraill i farwolaeth Carl Sargeant.

Diwedd y llynedd, roedd yr ymchwiliad wedi canfod “nad oedd ddim tystiolaeth” bod unrhyw un wedi “rhannu gwybodaeth heb ganiatâd”.

Cythruddo’r Ceidwadwyr

Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod y penderfyniad i beidio â chyhoeddi’r adroddiad yn “annerbyniol ac yn siomedig iawn”.

“Roedd ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol yn glir ac mae’r esgusodion dros beidio â chyhoeddi’r adroddiad ar eu gorau yn wan, ac ar eu gwaethaf yn codi rhwystrau,” meddai’r arweinydd, Andrew RT Davies.

“Os nad oes dim i’w guddio, yna does dim rheswm pam na all y fersiwn wedi’i olygu cael ei gyhoeddi.

“Rydym bellach yn ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i sicrhau bod ewyllys y Cynulliad Cenedlaethol yn cael ei barchu.”