Mae cynlluniau gan sawl un o gynghorau Cymru i wella darpariaeth addysg Gymraeg, wedi eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.

Daw hyn wedi i Lywodraeth Cymru ddyfarnu nad oedd y cynlluniau gwreiddiol yn “mynd ddigon pell i sicrhau twf digonol” mewn addysg cyfrwng Cymraeg.

Mae’n orfodol i gynghorau Cymru gyflwyno cynlluniau o’r fath, a hyd yma mae cynlluniau pymtheg o’r 22 cyngor wedi’u cymeradwyo.

Wrth gymeradwyo’r cynlluniau, mae Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, wedi  canmol “ymrwymiad” y cynghorau at “gefnogi twf ym maes addysg cyfrwng Cymraeg.”

“Parhau i weithio”

“Bydda i nawr yn gofyn i bob awdurdod lleol lunio cynllun gweithredu yn seiliedig ar y targedau o fewn eu cynllun strategol, gan gynnwys y rhai hynny sy’n aros am gymeradwyaeth,” meddai.

“Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â phawb i fonitro’r cynnydd a wneir ac i roi cymorth lle bo angen.”

Ddim yn “ddigonol”

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb trwy alw ar Lywodraeth Cymru i “weddnewid y system addysg” gan ddweud bod y camau hyd yma yn “rhy araf o lawer”.

Pryder y mudiad, yn ôl yr ymgyrchydd Toni Schiavone, yw bod targedau’r Llywodraeth “ymhell o fod yn ddigonol” er mwyn cyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

“Yn wir, mae’r targedau yn is nag yn y strategaeth y cyhoeddon nhw wyth mlynedd yn ôl,” meddai Toni Schiavone.

“Pe bai’r patrwm presennol yn parhau, byddai rhaid aros tan tua 2170 i gael system addysg lle mae pob plentyn yn derbyn eu holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg.”

Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb Llywodraeth Cymru i’r sylwadau yma.

Cynnig “eglurder”

Mae mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG) wedi croesawu cyhoeddiad Llywodraeth Cymru gan ddweud ei fod yn cynnig “eglurder ar sefyllfa a fu’n annelwig ers rhai misoedd”.

Ac mae Cadeirydd y mudiad, Wyn Williams, yn nodi eu bod yn “falch” bod y Llywodraeth wedi  “peidio â chaniatáu i’r siroedd hynny osgoi eu cyfrifoldeb” at yr iaith.

“Pwyswn yn awr am fwy o fanylion gan y Gweinidog ynglŷn â’r broses a’r amserlen i sicrhau bod yr holl siroedd yn cyflwyno cynlluniau o safon cyn gynted â phosibl,” meddai Wyn Williams.

“Mae angen sicrhau hefyd bod Cynlluniau Gweithredu manwl a phwrpasol yn cael eu llunio sy’n nodi’n glir beth yw cyfraniad pob partner allweddol.”