Bydd Cyngor Gwynedd yn newid y drefn o dalu treuliau teithio er mwyn arbed arian.
Mae gweithwyr y Cyngor yn medru hawlio 45 ceiniog y filltir wrth deithio ar fater yn ymwneud â’r gwaith.
Ac ar hyn o bryd mae modd hawlio’r arian yma am bob rhan o’r siwrne – hyd yn oed y cymal rhwng y cartref a’r swyddfa.
Er enghraifft, os yw gweithiwr yn byw ym Mhen Llŷn ac yn gweithio yn y pencadlys yng Nghaernarfon, ond yn teithio i Birmingham ar gyfer cyfarfod ney gwrs, mae modd hawlio am y milltiroedd rhwng Pen Llŷn a Chaernarfon.
Ond o fis Gorffennaf ymlaen ni fydd modd i weithwyr hawlio treuliau teithio am fynd o’u cartref at eu swyddfa arferol, tra ar y ffordd i rywle arall.
Yn ystod 2016/2017 mi wnaeth 2,478 o aelodau’r cyngor hawlio taliadau o’r fath, a thrwy ddod â’r drefn yma i ben mae’r Cyngor yn disgwyl arbed £180,000.
Argymelliadau
Mae’r Cyngor hefyd wedi bwrw ati i gymeradwyo llond llaw o argymelliadau eraill, a thrwy gyflwyno pob un mae’r cyngor yn gobeithio arbed £290,000.
Bellach mae’r cyngor wedi cymeradwyo:
- Cynnydd cyflog 20% i weithwyr sy’n gweithio rhwng 8 a 10 y nos (sy’n para am yr oriau yna)
- Arbediad disgwyliedig: £154,000
- Addasu cynllun gwarchodaeth gyflog – cynllun sy’n effeithio 20 aelod staff
- Arbediad disgwyliedig: £64,000
- Lleihau’r taliad ar gyfer bod ar ddyletswydd
- Arbediad disgwyliedig: £52,000