Mae Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar Brif Weinidog Cymru i bellhau ei hun o sylwadau gan Jeremy Corbyn am ymosodiad Salisbury.

Mewn erthygl ym mhapur The Guardain mae Arweinydd y Blaid Lafur wedi galw’r digwyddiad, lle cafodd y cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia eu gwenwyno, yn “ofnadwy”.

Ond mae Jeremy Corbyn hefyd wedi rhybuddio na ddylwn “ruthro i gasgliadau” a beio Llywodraeth Rwsia, gan awgrymu bod hi’n bosib mai gangiau â chysylltiadau Rwsiaidd sydd ar fai.

Yn sgil cyhoeddi’r erthygl mae Jeremy Corbyn wedi’i feirniadu, ac mewn cyfweliad â’r BBC mae Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, wedi dweud bod yr ymateb hwn “annheg”.

“I fod yn deg, dw i’n credu bod Jeremy Corbyn wedi’i bardduo mewn modd annheg,” meddai Carwyn Jones wrth y BBC. “Dw i’n credu gwnaeth e’ gondemnio beth wnaeth ddigwydd yn gryf iawn.”

Pellhau

Cred Andrew RT Davies, o’r Ceidwadwyr Cymreig, yw y dylai Carwyn Jones bellhau ei hun o sylwadau Jeremy Corbyn a “dangos arweinyddiaeth i bobol Cymru”.

“Mae sylwadau Prif Weinidog Cymru a’i gefnogaeth i Brif Weinidog y Deyrnas Unedig – a’i hymateb i ymosodiad Caersallog – wedi’i groesawu,” meddai Andrew RT Davies.

“Mae hyn yn wahanol iawn i’r [ymateb] i’w arweinydd yn San Steffan, Jeremy Corbyn. Ni allwn adael i sylwadau Mr Corbyn beidio â chael eu herio. A ni all Carwyn Jones amddiffyn ei safiad rhagor.

“Rhaid i Brif Weinidog Cymru bellhau ei hun, yn syth, o safiad Corbyn – safiad sydd yn uniongyrchol yn peryglu ein diogelwch cenedlaethol – a dangos arweinyddiaeth i bobol Cymru.

“Y fath arweinyddiaeth y baswn nhw’n disgwyl mewn sefyllfa fel hyn – sefyllfa sy’n peri gofid.”