Mi fydd trefnwyr Gemau’r Ynysoedd yn ymweld ag Ynys Môn heddiw, wrth iddyn nhw chwilio am leoliad i gynnal y gemau yn 2025.

Ers ei sefydlu yn 1985 mae’r gemau wedi bod yn cael eu cynnal bob dwy flynedd, gydag ynysoedd ledled y byd yn cymryd rhan o Ynys Rhodos i Ynysoedd Bermwda.

Mae Ynys Môn ymhlith grŵp bach o ynysoedd sydd wedi  cystadlu ym mhob un o’r cystadlaethau, ond hyd yn hyn dydyn nhw erioed wedi cynnal y digwyddiad.

Mae disgwyl i Aelod Cynulliad Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth, ac Aelod Seneddol yr ynys, Albert Owen, gyfarfod â’r trefnwyr yn ystod ei hymweliad.

“Croeso i Ynys Môn!” meddai Rhun ap Iorwerth mewn neges ar Twitter. “Dw i’n edrych ymlaen at gyfarfod â chi, ac at ddangos ein hynys brydferth – ynys sy’n hoff o chwaraeon!”