Mae un o newyddiadurwyr mwya’ dadleuol cyfnod ôl-ddatganoli yng Nghymru wedi dychwelyd i’r ganol y llwyfan gwleidyddol – a hynny gydag ymgyrch ddi-flewyn ar dafod a phenderfynol yn erbyn y Prif Weinidog, Carwyn Jones.

Ers rhai wythnosau ar wefan gymdeithasol Twitter, mae cyn-olygydd gwleidyddol papur newydd The Welsh Mirror, Paul Starling, wedi bod yn postio erthyglau a dadleuon yn erbyn Carwyn Jones, tra ar yr un pryd yn amddiffyn y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant.

Mae wedi cyhoeddi cyfres o ‘erthyglau’ yn beirniadu’r ffordd y deliodd Carwyn Jones â’r honiadau a’r cwynion yn erbyn y diweddar Aelod Cynulliad, Carl Sargeant. Mae’n dueddol o gefnogi’r cyn-Weinidog, Leighton Andrews, yn ei ddadansoddiadau, ac mae’n dweud ei ddweud am rai merched amlwg sy’n gweithio yn y Bae.

Dywed y dylai Carwyn Jones ymddiswyddo os nad yw’n “gallu ateb cwestiynau sy’n codi o’r ymchwiliadau ynghylch marwolaeth Carl Sargeant” – ac mae’n darogan gwae ynglyn â dyfodol y Prif Weinidog yn ei swydd.

“Mae hi ar ben ar Carwyn Jones,” meddai Paul Starling yn un o’i epistolau. “Mae ei ran warthus yn y weithred o ddiswyddo ac ym marwolaeth Carl Sargeant yn ddigon o reswm iddo yntau golli ei swydd.”

Mae wedi cyhoeddi sawl neges faith arall, gan gynnwys un sy’n galw ar fab Carl Sargeant, Jack, sydd wedi olynu ei dad yn Aelod Cynulliad Alyn a Glannau Dyfrdwy, i ganfod y “gwir” am yr hyn ddigwyddodd fis Tachwedd diwethaf.

Yn 2009, fe safodd Paul Starling yn aflwyddiannus i fod yn Aelod Seneddol dros blaid People’s Voice yn etholaeth Torfaen.

Mae golwg360 wedi gofyn iddo am gyfweliad, ond dydi o ddim wedi ymateb hyd yma.

https://www.facebook.com/permalink.php?story_fbid=427117137708113&id=100012294909100

Carwyn Jones – “wedi dilyn y rheolau”

Mae’r Prif Weinidog wastad wedi mynnu ei fod wedi “dilyn y rheolau yn fanwl” wrth ddelio â’r honiadau yn erbyn y cyn Weinidog Plant a Chymunedau cyn ei farwolaeth ym mis Tachwedd 2017.

Mae dau ymchwiliad, a chwest i farwolaeth Carl Sargeant, ar y gweill.