Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi heddiw y bydd dwy neuadd breswyl newydd ar gyfer myfyrwyr sy’n siaradwyr a dysgwyr Cymraeg.

O fis Medi 2018, bydd Neuadd Preseli ar Gampws Parc Singleton, a Neuadd Emlyn ar Gampws y Bae, yn cael eu rhoi i fyfyrwyr cyfrwng Cymraeg.

Yn ôl y brifysgol, bydd y neuaddau yn rhoi cyfle i fyfyrwyr “gymryd mantais lawn” o’r digwyddiadau cymdeithasol sy’n cael eu cynnal yno trwy gyfrwng y Gymraeg.

Ac mae’n debyg bydd preswylwyr ar y ddau gampws yn agos at gyfleusterau gan gynnwys banc, neuadd fwyd, Undeb Myfyrwyr, a changen Abertawe o’r Coleg Cymraeg.

“Galw ers tro”

“Mae’r datblygiad hwn yn un i’w groesawu’n fawr,” meddai Tomos Watson, Swyddog Iaith Gymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

“Mae myfyrwyr y Brifysgol wedi bod yn galw ers tro am neuadd sy’n rhoi cyfle i Gymry Cymraeg fyw yng nghwmni ei gilydd, ac, eleni, mae ein Prifysgol nid yn unig wedi gwrando arnom, ond wedi trefnu dwy i ni!

“Fel Undeb, edrychwn ymlaen yn fawr nawr at groesawu preswylwyr newydd i’r neuaddau hyn ym mis Medi ac at weld y gymuned Gymraeg yma yn datblygu ymhellach.”