Mae cyn-aelod o Gyngor Cymuned Llanddeiniolen yn galw am ymddiheuriad gan ei gyd-gynghorwyr, gan honni eu bod wedi ei alw’n “fwli” ar gam.

Fe ymddiswyddodd Sion Jones yr wythnos ddiwethaf, gan gyhuddo’r cyngor o anwybyddu anghenion y pentrefi y mae ef yn eu cynrychioli ar Gyngor Gwynedd, sef Bethel a Seion. Roedd hefyd yn un o bedwar cynghorydd cymuned dros Fethel.

Neithiwr, fe gynhaliwyd cyfarfod brys o’r cyngor cymuned, gyda’r nod o lunio ymateb i ymddiswyddiad Sion Jones… ond hyd yma, does neb o’r cyngor wedi ymateb i ymholiadau golwg360, nac wedi gwneud sylw chwaith am yr alwad am ymddiheuriad.

“Dw i’n credu bod arnyn nhw ymddiheuriad i mi,” meddai Sion Jones wrth golwg360. “Dw i’n meddwl bod o angen ei ddeud, oherwydd ges i fy nghyhuddo yn y cyngor o fod yn fwli. Gwarthus.

“Os mai bwli ydw i yn cwffio dros yr ardal, wel, so be it. Mae cael fy nghyhuddo o fod yn fwli yn dangos bod nhw’n gorff reit wan… Dw i’n gobeithio bod y camau dw i wedi cymryd yn mynd i gryfhau’r cyngor, ac yn mynd i wneud iddyn nhw sylwi bod angen codi fyny.

“Os nad yydyn nhw’n barod i wneud hynny, gadewch i’r genhedlaeth nesa’ gymryd drosodd y cyngor er mwyn cael syniadau newydd, a gwneud pethau sydd y tu allan i rôl statudol y cyngor.”

Dychwelyd “dan yr amodau iawn”

Er ei feirniadaeth o’r cyngor mae Sion Jones yn teimlo bod “lot mawr iawn o botensial” i Gyngor Cymuned Llanddeiniolen o hyd, ac mae’n dweud y byddai’n dychwelyd i eistedd arno “dan yr amodau iawn”.

Mae’n dweud ei fod yn ddigon parod i sefyll etholiad i wneud hyn, ond yn nodi bod “croeso iddyn nhw” gyfethol rhywun yn ei le hefyd, ac nad yw e’n siŵr os oes rhywun wedi’i benodi ganddyn nhw yng nghyfarfod neithiwr (nos Fercher).

Yn y cyfamser, mae Sion Jones yn bwriadu cynnal ei gyfarfod cyhoeddus ei hun yn Neuadd Goffa Bethel heno (nos Iau, Mawrth 15) lle bydd yn rhannu ei syniadau am sefydlu ‘Pwyllgor Cymunedol’ i ymladd am grantiau i bentrefi Bethel a Seion.

Fe fyddai’n pwyllgor hwnnw’n cyfarfod yn fisol i drafod materion cymuned Bethel, meddai Sion Jones.

Bwrw ymlaen hebddo 

Mae clerc Cyngor Cymuned Llanddeiniolen, Eleri Bean, yn dweud wrth golwg360 bod y cyngor “yn mynd i gysylltu â Sion Jones”, ac mai eu bwriad ydi “symud ymlaen hebddo”.

Yn ôl Eleri Bean, “mae pawb yn ddigon bodlon” gyda’r sefyllfa, gan ategu na fu trafodaeth yn y cyfarfod neithiwr am honiadau Sion Jones a’i alwad am ymddiheuriad.

Mae golwg360 hefyd yn deall nad oedd pob un o’r cynghorwyr yn bresennol yn y cyfarfod brys neithiwr.