Mae golwg360 wedi cael cadarnhad y bydd Neil McEvoy yn mynd gerbron panel disgyblu Plaid Cymru yn hwyrach heddiw (dydd Iau, Mawrth 15).

Mae disgwyl i wrandawiad i’r cwynion yn erbyn yr Aelod Cynulliad, sydd wedi’i wahardd o grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad, eistedd heno er mwyn canolbwyntio ar y gyfres o gwynion ddaeth i law’r blaid yn ganolog, yn hytrach na rhai yn ymwneud â’r grŵp.

Fe gafodd Neil McEvoy ei ddiarddel o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad ym mis Ionawr eleni, ond mae’n parhau yn aelod o’r blaid ac yn ei chynrychioli fel cynghorydd ar Gyngor Caerdydd.

Ar y pryd, dywed y grŵp bod yr aelod wedi tanseilio undod y grŵp, ond mae Neil McEvoy yn mynnu ei fod wedi cael ei orfodi allan.

Mae’r Aelod Cynulliad Canol De Cymru wedi dweud bod y cwynion wedi’u cydlynu yn ei erbyn.