Mae’r Aelod Cynulliad sydd wedi’i wahardd o grwp Plaid Cymru ym Mae Caerdydd, wedi cyhoeddi y bydd yn cynnal digwyddiad ymylol yn ystod y gynhadledd wanwynyr wythnos nesa’, dan y teitl Saesneg, ‘Plaid Cymru: political party or pressure group?’

Fe fydd y cyfarfod yng ngwesty’r Bridge End, Llangollen, amser cinio dydd Sadwrn, Mawrth 24, ac mae croeso i bawb.

Yn ogystal ag ef ei hun, fe fydd Jacqueline Hurst, cyn-ymgeisydd Plaid Cymru yn Alyn a Glannau Dyfrdwy, yn cymryd rhan; ynghyd â Martin Davies, ymgyrchydd ym Mlaenau Gwent.

“Rydyn ni’n siarad am brofiadau pobol mewn ardaloedd anhraddodiadol,” meddai Neil McEvoy wrth golwg360, gan awgrymu’n gryf ei fod am weld Plaid Cymru yn newid cyfeiriad.

Mae Neil McEvoy wedi ei wahardd o grŵp Cynulliad y blaid, ac mae ymchwiliad ar y gweill i honiadau yn ei erbyn. Mae hi bron yn flwyddyn union ers i dribiwnlys yng Nghaerdydd ei ddyfarnu’n euog o fwlian aelod o staff Cyngor y brifddinas.

Yn ystod cynhadledd Plaid Cymru yng Nghaernarfon fis Medi y llynedd, fe ddenodd Neil McEvoy dros gant o bobol i gyfarfod ymylol yng Ngwesty’r Celt yn y dref.