Mae’r Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, wedi dileu neges ar Twitter ar ôl codi gwrychyn ei gyd-aelodau Plaid Cymru â llun ohono’i hun a Dafydd Elis-Thomas mewn menyg paffio.

Ymateb oedd hyn i neges gan ohebydd y Western Mail, Martin Shipton, am ei bodlediad diweddaraf gydag arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, lle mae’n gofyn iddi pwy mae hi’n ei gasáu fwyaf – Dafydd Êl neu Neil McEvoy?

Fe gyhoeddodd Neil McEvoy y llun yn ymateb i hynny, gan ddweud “Rydym yn barod amdani [emoji chwerthin]”.

Ond fe esgorodd hyn ymateb chwyrn gan aelodau o’i blaid ei hun.

Ymatebion

Mewn neges arall dywedodd Neil McEvoy: “Mae bob tro’n dda meddu ar synnwyr digrifwch” – ac fe ddaeth ton o ymatebion gan ei blaid ei hun, cyn iddo dynnu’r llun i lawr.

“Dydy hyn DDIM yn ddoniol. Dw i’n gynddeiriog,” meddai’r Aelod Cynulliad, Bethan Sayed (Jenkins gynt, a chyn-gymar i Neil McEvoy). “Mae bron yn fygythiad, y trydariad yma. Ac unwaith eto mae’n cymryd dim cyfrifoldeb wrth alw hyn yn ‘hiwmor’.”

“Nid hiwmor diniwed yw’r iaith yma ynghyd â’r llun. Cymera’r trydariad yma i lawr os gwelwch yn dda,” meddai’r Aelod Cynulliad, Siân Gwenllian, wedyn.

“Pam byddai ef yn dweud hyn am yr hyn mae Leanne yn credu?” meddai’r Aelod Cynulliad, Rhun ap Iorwerth. “Mae’r trydariad yma yn amhriodol.”

“Allwch chi esbonio pa ran o fwrw dynes â menyg paffio sy’n ‘hiwmor’?” meddai’r cyn-ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion, Mike Parker. “Dw i’n cael trafferth gweld hynny fy hun.”