Fe fydd buddsoddiad gwerth £4m yn cael ei roi i Tata Steel, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Yn dilyn ymweliad â safle’r cwmni ym Mhort Talbot heddiw (Mawrth 13), fe gyhoeddodd Carwyn Jones y byddai £4m yn cael ei roi i’r cwmni er mwyn eu galluogi i ddarparu prosiectau hyfforddi i’w gweithwyr.

Nod y prosiectau hyn yw cryfhau sgiliau craidd y gweithwyr, a’u helpu i ddatblygu technegau gweithgynhyrchu a pheirianneg.

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnig mewn ymgais i wella effeithlonrwydd a chynyddu cynhyrchiant y cwmni, a hynny er mwyn iddo fod yn fusnes mwy cystadleuol o fewn y diwydiant dur.

“Ymrwymiad llwyr” i Tata Steel

“Mae Tata Steel wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i gyflwyno rhaglen amrywiol iawn o brosiectau hyfforddi penodol ar draws pob safle yng Nghymru,” meddai Carwyn Jones.

“Mae’r buddsoddiad rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn dangos ein hymrwymiad llwyr i’r cwmni wrth ddatblygu’r agenda uchelgeisiol hon.”

“Hynod o falch”

Yn ôl llefarydd ar ran Tata Steel wedyn, maen nhw’n “hynod o falch” bod Llywodraeth Cymru unwaith yn rhagor wedi cydnabod pwysigrwydd hyfforddi a gwella sgiliau gweithwyr.

“Mae dros 80% o’n gweithwyr yng Nghymru wedi elwa’n uniongyrchol o hyfforddiant mewn meysydd fel iechyd a diogelwch, busnes a rhagoriaeth cynnal a chadw yn ogystal â llu o feysydd eraill, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru.

“Mae hyn yn caniatáu i ni sicrhau bod modd i’n gweithwyr wneud mwy, sydd yn ei dro yn golygu eu bod mewn gwell sefyllfa i gefnogi holl economi Cymru.”