Fe fydd aelodau Cyngor Cymuned Llanddeiniolen yn cyfarfod yfory (ddydd Mercher, Mawrth 14) er mwyn llunio ymateb swyddogol i ymddiswyddiad y cynghorydd tros Fethel a Seion, Siôn Jones.

Fe gyflwynodd y cynghorydd ei lythyr ymddiswyddiad ddydd Mercher diwethaf gan gyhuddo’r Cyngor o fod “yn erbyn” y pentrefi y mae o’n eu cynrychioli ac o gynnig cefnogaeth “eithriadol o wan” i brosiectau lleol.

Yn y gorffennol mae’r cynghorydd wedi galw ar i’r pentrefi dorri’n gwbwl rhydd o’r cyngor cymuned, ac mae’n fwriad ganddo gynnal cyfarfod cyhoeddus nos Iau (Mawrth 15) gyda’r nod o sefydlu ‘Pwyllgor Cymunedol’ i wneud ceisiadau am grantiau.

Nid Sion Jones yw unig gynghorydd Bethel

Ond nid Sion Jones yw unig gynrychiolydd Bethel ar Gyngor Cymuned Llanddeiniolen, gan ei fod yn un o bedwar sy’n cynrychioli’r trigolion sy’n talu cyfanswm o £6,000 y mis i’r pot trwy gyfrwng eu trethi.

Mae golwg36o wedi cysylltu â’r tri chynghorydd arall er mwyn ceisio cael eu hymateb nhw i benderfyniad Sion Jones i dorri’n rhydd – a mynd â Bethel a Seion gydag o.

Fe allai Cyngor Cymuned Llanddeiniolen benderfynu fory i gyfethol cynghorydd newydd i gymryd lle Sion Jones fel pedwerdydd cynrychiolydd Bethel.

Yn ôl un o’r tri, Richard Lloyd Jones, fe fydd y cyngor yn dilyn “y broses arferol” er mwyn dewis cynghorydd newydd.

Torri’n rhydd yn cymryd tair blynedd

Un cynghorydd sy’n cytuno â’r galw i dorri pentrefi Bethel a Seion yn rhydd yw’r cynghorydd Jane Pierce sy’n cynrychioli plwyf Llanddeiniolen ar y cyngor cymuned sy’n ymestyn o Lanrug ger Caernarfon i’r Rhiwlas ger Bangor.

Yn ôl Jane Pierce, fe allai’r broses gymryd “hyd at dair blynedd”.

Mae’n nodi y bydd “yn gweld eisiau presenoldeb Siôn Jones” mewn cyfarfodydd, ond mae’n anghytuno â’i feirniadaeth o lefel gwariant y cyngor cymuned.

“Fedra’i ddim cytuno â’i sylwadau [am y Cyngor],” meddai wrth golwg360. “Prinder pres [ydi’r broblem]. Mae’r un fath efo bob un busnes. A busnes ydi cyngor plwyf yn y diwedd.

“Os nad yw’r pres gynnon ni, fedrwn ni ddim ei wario heb godi trethi fyny. Ac mae’r trethi wedi mynd i fyny ychydig yn barod.”