Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i ddynes “gariadus a gofalgar” o Sir Gâr sydd wedi cael ei llofruddio.

Daeth heddlu o hyd i gorff Fiona Scourfield, 54, yn Fferm Broadmoor ger Sanclêr yr wythnos diwethaf.

Cafodd y ddynes ei magu yn Nhalacharn, roedd yn gwirfoddoli ag elusen achub cŵn, ac yn ôl ei theulu bydd “pawb yn gweld eisiau hi.”

“Roedd Fiona yn berson cariadus a gofalgar, a bydd pobol yn ei chofio am ei charedigrwydd, yn enwedig ei charedigrwydd at anifeiliaid,” meddai’r teulu mewn datganiad.

“Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth yn ystod y cofnod ofnadwy hwn. Mae’n golygu cymaint i’r teulu oll. Hoffwn gymryd amser i alaru, a gofynnwn am breifatrwydd i wneud hynny.”

Y llanc

Bellach mae bachgen 16 oed wedi ei gyhuddo o’i llofruddio, ac wedi ei gadw yn y ddalfa mewn uned ddiogel ar gyfer pobl ifanc.

Mae eisoes wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Abertawe, ac mi fydd yn ymddangos yno eto ar Fai 18.