Mae dau ddyn wedi pledio’n euog i ddelio cyffuriau yng Nghaerdydd.

Fe gafodd Mohammad Javadi-Zadeh, 43 oed, o Broadway, Adamsdown, ei stopio ar Chwefror 4 tra’r oedd yn gyrru yn ardal Cathays yn y brifddinas.

Fe gafodd ei arestio ar fwriad o ddarparu canabis, gyda’r heddlu’n darganfod yn ei gar werth £700 o’r cyffur wedi’i storio mewn bagiau o dan sêt y gyrrwr a’r bwt; gwerth £500 mewn arian; ynghyd â chyllell.

Roedd ganddo hefyd ddau ffôn symudol a oedd yn cynnwys tystiolaeth ei fod wedi bod yn delio cyffuriau.

Fe gafodd Najat Ismail, 45 oed, wedyn, ei stopio yn gyrru yn yr un ardal ar Fehefin 29 y llynedd, gyda gwerth £520 o ganabis yn cael ei darganfod yn ei gar, gwerth £980 mewn arian, a phedwar ffôn symudol yn cynnwys tystiolaeth o ddelio cyffuriau.

Yn Llys y Goron Caerdydd yn ddiweddar, fe dderbyniodd Mohammad Javadi Zadeh flwyddyn yn y carchar, a Najat Ismail ddeunaw mis.

“Neges” i ddelwyr cyffuriau

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu, mae’n gobeithio bod yr achosion hyn yn “neges” i unrhyw un sy’n delio cyffuriau y byddai’r heddlu’n “eu darganfod a’u harestio”.

Mae hefyd yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am unrhyw bobol sy’n delio cyffuriau yn eu hardal i gysylltu â’r heddlu ar y rhif 101.